Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gydag ef yn yr ystafell y tu ôl i'r shop, daeth brawd a adwaenem ein dau i mewn, ac wedi peth siarad, aeth hwnnw at ei hoff bwnc gan ffeindio bai ar y ddiod, tra y gallasent eu rhoddi at achosion da yn gyffredinol, yn enwedig achosion crefyddol, megis yr Achosion Cenhadol a'r Beibl Gymdeithas. Cydolygai Mr Owen â'r brawd yn yr oll a ddywedai, ac wedi gwrando ar y cyfaill yn dweud yr oll oedd ganddo am y wedd druenus yna ar bethau, dechreuai ddweud fod y dirwestwyr, fel y gwyddai pawb, yn nodedig am eu haelioni, ac yn wir, hawdd y gallent fod yn haelionus, gan y gwybyddai bawb nad oeddynt hwy yn gwario dim ar felys-chwantau. Yna gan droi at y silff gerllaw, gofynnai i'r brawd, " Faint ydach chi'n ei roi at yr Achosion Cenhadol ac at y Beibl Gymdeithas?" Estynnai yr Adroddiadau i lawr, a chan edrych ar yr Adroddiadau ai ymlaen i ddweud,—" Wela i mo'ch enw ch'i i lawr am ddim, dim at y Genhadaeth, a'r un faint yn union at y Beibl Gymdeithas." Ymesgusodai y brawd gan ddweud ei fod ef yn dlawd, fel y gwyddai Mr Owen, ac na ellid disgwyl llawer oddi wrtho ef. "Tlawd!" ebe Daniel, " sut y darfu i chwi brynu'r fferm fechan acw, a rhoi saith cant a hanner o bunnau am