Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

nag oddi ar brofiad o hanes Daniel Owen. Ei nod gwahaniaethol ef, o ran ei feddwl a'i ddeall, oedd y gwrthwyneb.

Y cyd-drigiad hwn gyda noethni y gwir, a'i ddigasedd at bob ffug, seremoni wag, agweddau disylwedd a dirwasgiad ar natur iach, sydd yn dyfod i'r golwg yn rhai o brif gymeriadau ei lyfrau. Yn true to nature, Wil Bryan, trawai un o'r tannau oedd yn swnio yn ddi-baid a chryfaf yn ei galon ef ei hun. John Aelod Jones, Mr. Smart, a'r mwynwr gau, ac eraill,—nid ydynt, ni chredwn, yn ddarluniau o neb neillduol. Ond dynodent egwyddor a dull yr oedd ei enaid ar dân yn eu herbyn. Nid ydym yn cofio erioed ei weled yn dirmygu dyn, nac erioed yn chwerw, ond efe a wnâi siarad yn boeth, neu, yn hytrach, yn wresog, o herwydd ni chlywsom am dano erioed mewn tymer ddrwg ychwaith,—ac ymhlith y pethau a enynnent fwyaf ar ei enaid ydoedd ffug.

Un o'i amcanion pennaf ydoedd amddiffyn naturioldeb,—naturioldeb mewn dull, mewn gweithred, ac, yn enwedig mewn ymarferiadau crefyddol. Yr oedd hyn yn dilyn oddi wrth ei gyd-drigiad â'r gwir. Teimlai mai y peth ar beth oedd yn ôl natur dyn, fel y crëwyd ef gan