Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

oedd manylion rhif yn ei ddenu, yr oedd y cyfanion mwyaf pwysig yn brif faterion ei enaid. Pynciau diwinyddiaeth a chrefydd— gyda rhain y magwyd ef. Crefydd a'i "moddion," esiampl grefyddol a galluoedd naturiol ei fam, y cyfarfodydd cystadleuol a gychwynnwyd gan gyfeillion crefyddol, ac a wobrwyent gan mwyaf am draethodau a barddoniaeth grefyddol. Y cyfarfodydd darllen, yr ymddiddanion parhaus yn ei ieuenctid ar faterion diwinyddol — y pethau hyn a ffurfiasent Daniel Owen yn y blynyddoedd pan y mae dyn yn fwyaf agored i argraff.

Pan ddaeth pregethau Robertson o Brighton allan, cafodd y fath fwynhad ynddynt, drachtiai mor awyddus ohonynt, ac adroddai hwynt gyda'r fath rym fel y mentrwn amau a ddarfu i Robertson ei hun eu traddodi yn well. Ei fam, fel y dywedodd ef ei hun, oedd "Mari Lewis," ei brif chwedl, ac yr oedd effaith ei bywyd arno yn neillduol o fawr. Bu yn dilyn moddion cyhoeddus crefydd—gydag ychydig o ataliadau- o’r amser ei brentisiaeth, pan y gorfodid ef gan Angell Jones i fynd iddynt deirgwaith bob Sabath, a phob tro yn yr wythnos, a gwleddai ar bregethau da. Yr oedd yn fyw o deimlad "naturiol" hefyd, ac yn fy w iddo i raddau eithriadol