Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb gymhorth ei amenau a'i ocheneidiau lluosog ef. Ond nid oedd dim perygl o'r cyfeiriad hwnw, ac yr oedd yntau yn ofni lle nad oedd achos ofni. Ystyrid fod ei ddull a'i agwedd wrth bregethu yn y cyfnod hwn, yn ymddangos yn llawer rhy hyf, a'i ymadroddion yn tueddu i yru ei wrandawyr i ysgafnder chwerthinllyd ac ynfyd. Barnai un o oraclau Llanuwchllyn wedi ei wrando, nad oedd arno eisieu swmbwl i'w yru yn mlaen, ond yn hytrach yn ei drwyn i'w yru yn ol. Beth bynag am yny, ceir digon fel hwnw eto yn y byd, i gynllunio offerynau i "yru yn ol," ac nid i symbylu ein dynion ieuainc yn mlaen. Ond nid yw Duw byth yn gwneuthur cyfleustra i ni fyned yn ol, ond egyr foroedd i'n galluogi i fyned yn mlaen, a byddai yr un mor hawdd atal yr haul ar ei yrfa, neu atal llanw y môr i chwyddo i'r lan, ag a fyddai atal yr un o'r rhai a anfonwyd gan Dduw rhag cyflawni ei waith ef. Nid oedd sefyllfa ein henwad yn Meirionydd ar y pryd mewn un modd yn galonogol i ddyn ieuanc i gychwyn allan, canys nid oedd ein haddoldai yno yn rhifo mwy na deg pan ddechreuodd ein harwr bregethu, sef Ty'nybont, Llanuwchllyn, Bala, Pennal, Rhydymain, Rhydywernen, Penystryd, Dinasmawddwy, Brithdir, a Llanelltyd. Ail gychwynodd ein gwrthddrych a'r Parch. Hugh Pugh, Brithdir, yr achos yn y Cutiau, yr hwn oedd wedi ei adael i ddiflanu er's blynyddoedd; ac wedi i Mr. Williams fyned i'r athrofa, parhaodd Mr. Pugh