Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

salem, Trawsfynydd, yn y cyfnod hwn. Yr oedd gwraig dduwiol iawn yn byw yn yr amaethdy a nodwyd, yr adeg hono, o'r enw Elizabeth Griffith, yr hon oedd yn wael ar y pryd. Daeth tyrfa" luosog yn nghyd i'r bregeth, ac yn eu plith yr oedd amrai o fechgyn ieuaine nwyfus a direidus iawn. Dygwyddodd un peth yn yr oedfa hono oedd yn brofedigaethus a digrifol i'r gynulleidfa, ac yn arbenig felly i'r pregethwr ieuanc; oblegid fel yr elai yn mlaen, yr oedd rhai o'r bechgyn ieuainc yn brysur wrth y gwaith o luchio groi gyfeiriad y pregethwr, ac o'r diwedd, disgynodd gröyn ar flaen trwyn y llefarwr; ond efe mewn hunanfeddiant perffaith a aeth yn ei flaen, heb gymeryd arno fod dim allan o'i le wedi dygwydd. Yr oedd y gallu i anymwybyddu rhwystrau, a myned yn mlaen gyda'i waith, heb eu cydnabod o gwbl, yn gryf ynddo drwy ei oes." Dywedai yr Hybarch Cadwaladr Jones, Dolgellau, mai y tro cyntaf iddo ef glywed Mr. Williams yn pregethu, oedd mewn ty anedd o'r enw "y Parc," Cwm Glanllafar, a hyny yn lled fuan wedi iddo ddechreu ar ei waith cyhoeddus. Cyhoeddiad Mr. Jones, Trawsfynydd, oedd yno, ond gan i Mr. Williams ddyfod gydag ef, gosodwyd ef i bregethu ychydig o'i flaen, a hyny a wnaeth ar y "Saith canwyllbren aur." Cynorthwyai ei hen athraw ef, ac ymddangosai fel pe yn ofni i'w ddysgybl ieuanc fethu a myned yn mlaen