Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan falurio ei het yn chwilfriw, ond heb gyffwrdd yn niweidiol âg ef. Yr oedd y waredigaeth hon, yn nghyda gwaredigaethau eraill a gafodd efe, wedi cynhyrfu ei enaid i gydnabod Duw yn ei waredigaethau iddo, ac i lafar ganu yn dragywydd am iddo orchuddio drosto. Efe a aeth rhagddo gyda gorchwyl mawr ei fywyd, gan ymwroli, fel un yn gweled yr anweledig. Bu o wasanaeth annhraethol gyda'r achos yn y cymydogaethau cylchynol ar ei gychwyniad cyntaf allan. Dywedai Sarah Pugh o'r Brynllinbach, am dano yn y cyfnod hwn ar ei fywyd, "Yr oedd William yn barchus gan bawb yn gyffredinol, ac wedi iddo ddechreu pregethu, gwahoddid ef i bregethu i'r tai o amgylch ei gartref. Sonir am dano yn pregethu yn hynod iawn, mewn wylnos merch ieuanc yn Abergeirw Mawr Yr oedd yn amlwg o dan arddeliad neillduol ac anarferol iawn. Dichon fod yr amgylchiad ynddo ei hunan yn fanteisiol iddo, yn gystal a bod ei ddoniau yntau hefyd yn effeithio yn rhyfedd ar y bobl, fel rhwng pob peth, nid oedd llygaid sych yn yr holl gynulleidfa. Gwnaeth ddaioni dirfawr yn ei ardal ei hun. Yr oedd y trigolion yn annuwiol, ac yn ofergoelus, a llawer iawn o hen gampau llygredig yn cael cu harfer ar y Sabbathau; ac yr oedd cael dyn ieuanc fel William i ddweyd yn erbyn drygioni yr oes, yn werth anmhrisiadwy." Adroddir am dano yn pregethu yn Nhyddynmawr, gerllaw capel Jeru-