Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gybi, yn adrodd, a hyny tan wylo dagrau heilltion, am y modd y darfu iddo yntau, pan yn ieuanc, gael ei demtio i wneuthur yr un peth; ac ychwanegai drwy ddywedyd, ei fod wrth adrodd yr hanes y diwrnod hwnw, yn teimlo arswyd yn ei fynwes wrth adgofio am yr amgylchiad. Er i Mr. Williams gael ei nerthu gan Dduw, rhag syrthio yn aberth i'r demtasiwn gref y cyfeiriwyd ati eisoes, eto, nid oedd efe wedi myned drwy ei beryglon oll yn ardal ei enedigaeth.

Pan yn croesi maes unwaith, gan gario bwyell ar ei ysgwydd, gwelai darw rhuthrog yn cyflymu ar ei ol, gyda chyflymder a ffyrnigrwydd ofnadwy, rhedai yntau o'i flaen â'i holl egni, a chafodd ben y clawdd cyn iddo ei oddiweddyd, a chan sefyll yno yn wrol, rhoddodd ergyd iddo yn ei dalcen â gwegil y fwyell, nes ei hollol syfrdanu am beth amser; a phan yn ei daraw dywedai, "mi rof i tir chwech." Wedi i'r anifail ffyrnig ddyfod ychydig ato ei hun, diangodd ymaith am ei einioes. Dywedai y teulu, i'r hwn y perthynai y tarw, ei fod yn cofio y geiriau, "mi rof i ti'r chwech," tra y bu efe byw. Yr ydym eisoes wedi cyfeirio at dair o waredigaethau amlwg a hynod iawn a dderbyniodd ein gwrthddrych, ond y mae genym. un eto i alw sylw ati, yr hon sydd yn dangos gofal Duw am dano mewn modd arbenig iawn. Bu yn cymynu coed yn Mhenybryn, Llanfachreth, a thra yno gyda'r gwaith hwnw, syrthiodd pren arno,