Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Cyfodwch y rhwystr o ffordd fy mhobl." Eglurir ynddo y rhwystrau athrawiaethol, profiadol, ac ymarferol. Gresyn na cheid argraffiad newydd eto o hono. Yr oedd Mr. Williams yn hoffi y llyfr hwn yn anghyffredin. Ymneillduai i le dirgel gyda'i lyfrgell fechan, a byddai ei chwaer, Catherine, rhwng yr hon ag yntau yr oedd anwyldeb neillduol, yn sefyll gerllaw, gan wylio a bod yn barod i wasanaethu drosto, drwy borthi neu ddyfrhau yr anifeiliaid yn ei le pan y byddai ei dad yn galw arno, fel y gallai efe gael perffaith lonyddwch i ddilyn ei efrydiau yn ngholeg anian. "A'r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhawyd yn yr ysbryd, ac a fu yn y diffaethwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i'r Israel." Temtiwyd ef yr adeg hon gan y gelyn i daflu ei hunan i'r afon sydd gerllaw ei gartref.

Gwyddai y diafol y deuai William bach yn William y gorchfygwr arno yn y man, ac y gwnelai rwygiadau mawrion yn ei deyrnas ddu. Ond er mor nerthol y demtasiwn arno, cafodd fuddugoliaeth ar yr un drwg y tro hwnw; ac nid oedd y fuddugoliaeth hono o'i eiddo ar y gelyn, ond o fuddugoliaethau eraill a enillai efe yn y man, nes bod yn llwyr orchfygwr, ac yn fwy na chonewerwr ar ei holl elynion. Onid oes rhywbeth yn ofnadwy o ddychrynllyd yn y syniad o'r dylan— wad nerthol sydd gan ddiafol ar ddynion. Oni chlywsom yr Haeddbarch William Griffith o Gaer-