Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adeilad bron a myned yn garnedd adfeiliedig. Ymledodd y son am dano yn fuan, fel un ag oedd yn feddianol ar rhyw ddawn hynod iawn; ac un ag yr oedd ganddo genadwri oddiwrth Dduw i'w llefaru, a gweledigaeth nefol i'w hysbysu i ddynion. Dywedodd Victor Hugo, "Bydded wir neu gau, mae yr hyn a ddywedir am ddynion, yn aml yn meddu cymaint o ddylanwad ar eu bywydau, ac yn arbenig ar eu tynged, a'r hyn a wneir ganddynt." Felly Mr. Williams, o herwydd yr hyn a ddywedid am dano, a'r hyn a wneid ganddo, daeth i gael ei restru yn fuan yn un o bregethwyr penaf Cymru. Yn ol athrawiaeth y gwr doeth, y mae darllen llawer yn flinder i'r cnawd, ond nid oedd nemawr o lyfrau Cymreig ag yr oedd yn werth i'n gwrthddrych ymflino llawer i'w darllen, er ei fantais fel pregethwr, i'w cael y pryd hwnw, ond gwnaeth ei oreu gyda'r ychydig oeddynt yn ei gyrhaedd. oedd y llyfr cyfoethog a rhagorol hwnw, y Drych Ysgrythyrol, neu Gorff o Dduwinyddiaeth, gan Dr. George Lewis, fel y gwelsom, newydd ddyfod allan o'r wasg, ac yn tynu sylw mawr ar y pryd, ac yn dra gwerthfawr gan ein gwrthddrych yn ei efrydiaeth Ysgrythyrol, fel yr oedd yn llewyrchu goleuni i'w feddwl ar y Beibl, prif lyfr ei astudiaeth. Hefyd, hoffai yn fawr Benarglwyddiaeth Duw, gan Eliseus Cole, a Hall's Help to Zion's Travellers, y rhai oeddynt wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Sylwedd pregeth yw yr olaf o'r llyfrau a nodwyd ar y geiriau,