Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gyfiawn gerbron Duw. Dichon iddynt glywed Mr. Jones yn canmol y pregethwr newydd oedd ganddynt yn Mhenystryd; a naturiol iawn oedd bod mynych siarad am dano yn eu mysg.

Pa fodd bynag am hyny, ceisient, a hyny yn daer iawn ar y pregethwr ieuanc o Gwmeisian ddyfod i'w ty hwy bregethu, a chydsyniodd yntau â'u cais caredig ato, ac y mae yn deilwng o sylw mai yn Nhyddyny bwlch, Ganllwyd, y traddododd Mr. Williams ei bregeth gyhoeddus gyntaf. Yr oedd Mr. Jones, ei weinidog, yn yr oedfa yn gwrando arno, ac wedi iddo orphen, ac i bawb ymwasgaru, dywedodd wrth wr y ty, "Oni ddarfu i Wil fyned drwyddi yn lled dda yn to?" Ni chawsom allan beth ydoedd ei destun y tro hwnw. Bu teulu Tyddynybwlch o werth a gwasanaeth annhraethol i achos crefydd yn yr ardal hon am gyfnod maith. Bu William Jones farw Gorphenaf 30ain, 1823, yn 54 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Llanelltyd. Bu hithau, Anne Jones, ei wraig farw Mehefin 3ydd, 1863, yn 86 mlwydd oed, a chladdwyd hi yn mynwent capel Annibynol y Ganllwyd. Buont yn garedig i Mr. Williams ar ddechreuad ei yrfa bregethwrol, a bydd eu coffadwriaeth byth yn fendigedig ac yn anwyl genym, pe na buasent wedi gwneuthur dim ond ceisio ganddo ddyfod i'w hanedd hwy i draddodi ei bregeth gyhoeddus gyntaf, ac ar y cyfrif uchod yr ydym yn hoffi meini Tyddynybwlch, ac yn gresynu am fod yr hen