Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei anog i ymsefydlu yn Wern a Harwd—Yntau yn cydsynio—Rhagluniaeth y nef yn cyfryngu yn brydlon—Gwasanaeth Mr. Jones, Caer, i'r Enwad Annibynol yn y Gogledd—Ei ewyllys—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth—Cadw ein gwrthddrych yn y Gogledd—Yntau. yn gadael yr Athrofa ac yn ymsefydu yn y Wern

CYRHAEDDODD ein gwrthddrych gryn fedrusrwydd fel saer coed, ond fel y cynyddai ei gariad at bregethu Crist, yr oedd ei hoffder at ei gelfyddyd yn lleihau, fel erbyn hyn, yr oedd yn amlwg iawn mai nid i saernio coed yn eu morteisiau y neillduwyd ef o groth ei fam, ond i saernio syniadau ac egwyddorion mawrion yr efengyl, drwy eu harddangos mewn cysondeb perffaith â'u gilydd. Gerllaw i bentref Llanelltyd, gwelir gweddillion mynachlog enwog y Cymer, neu y Vaner, fel y gelwir hi yn awr, yr hon a ddengys olion o fawredd ac arddunedd 'henafol. Edrycha y coed sydd o bob ochr. i'r rhodfa a arweinia tuag ati, yn nodedig o fawreddus a phrydferth, a medda yr hen Fynachlog swyn arbenig i'r henafiaethydd a'r hanesydd, ond mwy dyddorol i ni yw syllu ar hen ysgubor ddiaddurn Dolfawr, yr hon sydd ychydig yn uwch i fyny: na'r Fynachlog, a hyny am y rheswm mai Mr. Williams a'i coediodd, ac mai hyny oedd y gwaith diweddaf a wnaeth efe fel saer coed, cyn