Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef i fyned i Fwlchyffridd, ger y Drefnewydd, fel y gallai sicrhau yr hyn yr awyddai gymaint am dano. Wedi cael boddlonrwydd ei rieni, penderfynodd fyned yn ol cyfarwyddyd Mr. Roberts iddo. Gwawriodd dydd ei ymadawiad o dy ei dad. Buasem yn hoffi gwybod beth oeddynt y cynghorion a roddwyd iddo gan ei dad, ac yn arbenig gan ei fam y dydd pwysig hwnw. Diau iddynt gydweddio cyn iddo gychwyn ymaith, oblegid arferent wneuthur hyny gyda'u gilydd yn ddyddiol er's tro bellach, ac yn sicr, nid aeth amgylchiad pwysig felly heibio heb iddynt gyd-ddeisyf am fendith yr Arglwydd i gyfarwyddo ei gerddediad ef. Wedi iddo gyrhaedd i Fwlchyffridd, trefnwyd iddo letya yn ystod ei arosiad yno yn Ngallt-y-ffynon. Yr oedd y teulu yn geraint i Mr. Roberts o Lanbrynmair. Hefyd, un o'r enw John Roberts ydoedd ei ysgolfeistr yma. Buasai yn dda nodedig genym allu rhoddi i'r darllenydd ychydig o hanes athraw cyntaf Mr. Williams oddicartref. Ond er pob ymdrech o'r eiddom i gael rhyw wybodaeth am dano o ran ei gymeriad moesol, a'i alluoedd addysgol, ni lwyddasom yn ein hamcan. Dichon mai hen filwr anafus wedi dianc yn archolledig o faes y gwaed, neu mai hen forwr a waredwyd o safn marwolaeth mewn llongddrylliad ydoedd efe; ond waeth i ni heb ddyfalu, ni wyddom ddim am dano ond yn unig ei enw. Er mai Saesonaeg a leferid gan y rhan luosocaf o drigolion Bwlchyffridd