Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y pryd hwnw fel yn awr, eto, nid rhyw lawer o gynydd a wnaeth ein gwrthddrych yn yr aeg hono tra y bu yn aros yn y lle. Adroddai yr Hybarch Hugh Morgan, Samah, wrth y Parch. J. C. Jones, Llanfyllin, ddarfod i un amgylchiad ddygwydd yn hanes Mr. Williams yma, am yr hwn y poenid ef gan weision Gallt-y-ffynon tra y bu yno. Ymddengys ei fod yn aros yno ar adeg cynhauaf gwair, a rhyw ddiwrnod, gan faint ei awydd i roddi cynorthwy iddynt i gasglu y gwair i ddiddosrwydd, dywedodd wrthynt yn sydyn, "Come to hel boys— y gwair." Poenid ef ganddynt, drwy eu bod yn sicrhau ddarfod iddynt hwy ddeall iddo ddywedyd wrthynt, "Come to hell," gan egluro iddo eu bod yn rhyfeddu fod pregethwr yn ceisio ganddynt ddyfod i uffern.

Prin y gallesid dysgwyl dim yn amgenach na rhyw drwstaneiddiwch fel a nodwyd, oddiwrth fachgenyn ieuanc a fagesid yn mynydd-dir Meirionydd, lle nad yngenid bron byth air o'r Saesonaeg gan neb o'r trigolion y pryd hwnw. Faint bynag oedd ei awydd ef am ddysgu Saesonaeg yn Mwlchyffridd, sicr yw fod ei awydd am bregethu Cymraeg wedi enill mwy o nerth yn ei feddwl, megys heb yn wybod iddo. Y Parch. John Roberts, Llanbrynmair, a arolygai dros yr eglwys Annibynol yn y lle y pryd hwn; felly, daeth Mr. Williams i gyffyrddiad agosach yno â'r gwr rhagorol hwnw, yr hwn a roddodd i'r efrydydd ieuanc lawer o gynghorion, y