Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai a ystyriai efe dros weddill ei oes o werth annhraethol iddo. Ni bu ei arosiad yma ond am rhyw wyth neu naw mis, pryd y dychwelodd i'w gartref am ychydig cyn myned i'r Athrofa. Yn Mwlchyffridd yn mhen blynyddoedd ar ol hyn y gwnaeth efe yr ymgais i bregethu yn Saesonaeg am y waith gyntaf erioed, ac nid rhyw lwyddianus iawn y bu yn ei anturiaeth gyntaf i bregethu yn yr iaith agosaf atom, er hyny ni ddigalonodd efe. Cyfeiriasom eisoes at y "Cyfamod gweithredoedd" a wnaeth ei dad âg ef yn nglyn âg ymatal o hono rhag sugno, ac os y cadwai efe yn ffyddlon at amodau y cyfamod hwnw, y rhoddid iddo "Yr oen du" yn wobr am hyny. Ac felly y bu, a chynyddodd y da hwnw o'i eiddo ar y ddaear yn ddirfawr; a chyn myned i'r Athrofa gwerthodd y ddeadell ddefaid, ac â'r arian a dderbyniodd efe am danynt y cynaliwyd yn ystod tymhor ei gwrs Athrofaol. Symudwyd Athrofa Croesoswallt yn y flwyddyn 1792 i Wrexham, at y Parch. Jenkin Lewis, fel y gallai efe ei llywyddu yn gystal a bod yn weinidog i'r Eglwys Annibynol yn Mhenybryn.

Yn y flwyddyn 1803, penderfynodd ein gwron fyned yno i ymgeisio am dderbyniad i'r Athrofa. Diau mai pryderus iawn ydoedd ei feddwl wrth deithio tua Wrexham, gan na wyddai efe beth a fyddai ei dynged yn niwedd ei daith, Gan y dywedir mai Mrs. Lewis a ddaeth i'r drws i ymddyddan â'r ymgeisydd newydd, rhaid mai oddeutu