Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diwedd y flwyddyn y cymerodd hyny le, oblegid yn mis Tachwedd, y flwyddyn hono, yr ail briododd Mr. Lewis gyda Mrs. Armitage, gweddw y diweddar Barch. W. Armitage, Caerlleon Gawr, yr hon oedd Saesones hollol. Dichon hefyd mai camgymeriad yw dywedyd mai Mrs. Lewis a ddaeth i'r drws, ac mai cywirach yw nodi mai Miss Armitage, merch Mrs. Lewis, a agorodd y drws i'r Cymro o Lanfachreth. Fodd bynag am hyny, bu yn rhaid ymofyn am gyfieithydd rhyngddynt, gan nas gallent heb hyny ddeall eu gilydd. Wedi iddo weled yr Athraw, a rhoddi iddo brofion o iachusrwydd ei athrawiaeth, yn ol fel y gofynai y Trysorfwrdd Cynulleidfaol gan bob ymgeisydd, rhoddwyd iddo dderbyniad i'r Athrofa. Nid ydym yn deall fod unrhyw safon neillduol heblaw yr uchod i'w phasio cyn cael derbyniad i'r sefydliad y pryd hwnw. Heblaw hyny, yr oedd Ysgol Ramadegol yn gysylltiol â'r Athrofa hyd ei symudiad o'r Drefnewydd i Aberhonddu, pryd y diddymwyd hi. Er iddo gael ei hun o fewn i gynteddau sefydliad addysgol yr enwad, eto oherwydd fod ei anfanteision boreuol wedi bod y fath, ni allodd efe ddeall nemawr o gyfrinion yr ieithoedd clasurol yn ystod ei efrydiaeth yn yr Athrofa, eto drwy gryfder ei alluoedd naturiol, ni ddaeth efe allan oddi yno heb ddeall rhyw gymaint o Roeg a Lladin hefyd. Ond os y methwyd a gwneud ysgolor gwych o hono, profodd ei hun yn dduwinydd dwfn, ac yn bregeth-