Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wr oedd yn meddu arbenigrwydd hyd yn nod y pryd hwnw. Fel un oedd wedi ei alw gan Dduw i fod yn Apostol, yr oedd yn mawrhau ei swydd i'r fath raddau, fel yr oedd pob peth arall oedd pob peth arall yn cael bod yn is-wasanaethgar iddi. Meddai "reddf naturiol at bregethu, deall cyflym i amgyffred gwirioneddau duwinyddol, ac athrylith gref at uchaniaeth.”

Dywed Dr. Jenkin mewn ysgrif alluog arno yn yr Homilist, yr hon a welir yn nghyfrol III., tudal. 209, ac o ba un y cymerwyd y dyfyniad uchod: "Iddo fyned i'r Athrofa i ymofyn 'bara' i faethu ei athrylith, ond mai ceryg sychion a chelyd a roddwyd iddo i lwytho ei gof â hwynt." Nid yw y mynegiad uchod o eiddo Dr. Jenkin mewn un modd i'w ddeall fel yn adlewyrchu yn anffafriol ar allu yr athraw galluog i gyfranu addysg, ond yn hytrach yn gondemniad ar y gyfundrefn addysgol a osodwyd iddo gan y pwyllgor i'w chyflwyno i rai oeddynt heb gael manteision addysgol boreuol digonol i'w galluogi i amgyffred dim o'r bron, am yr hyn a gyflwynid i'w sylw, ac mai llawer doethach fuasai rhoddi hyfforddiant mewn llenyddiaeth a duwinyddiaeth Seisnig yn unig iddynt hwy, yn yr amser byr oedd iddynt yn yr Athrofa. Byddai ein gwrthddrych yn cwympo yn fynych wrth geisio cerdded ar hyd llwybrau y gramadegau, a chynyrchai hyny chwerthiniad mynych yn mysg ei gyd-efrydwyr; ac wrth weled hyny, dywedodd ei athraw wrthynt unwaith: "Do not laugh at him, he will