Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beat you all before long." Ac yn sicr, megys y prophwydodd efe, felly yn hollol y bu, nid mewn dysgeidiaeth aruchel ond fel pregethwr a meistr y gynulleidfa. Mynegir ddarfod iddo dystio wrth ei athraw ar ddiwedd ei dymhor yn yr Athrofa, ei fod yn credu nad ymadawsai nemawr un oddiyno yn onestach nag ef, gan olygu nad oedd efe yn cludo rhyw lawer o ddysgeidiaeth gydag ef oddiyno.

Yr oedd y Parchedigion canlynol yn cydefrydu â Mr. Williams yn Wrexham am beth amser:—David Thomas, Llanfaches; David Powell, Cae-bach; Benjamin Evans, Bagillt; John Lewis, Bala; yr hwn a urddwyd i gyflawn waith y weinidogaeth Awst 23ain, 1808. Rhoddir dyddiad ei urddiad ef am na cheir ef yn hanes eglwys y Bala; Thomas Powell, Brynbiga; William Jones, Dwygyfylchi; William Jones, Penybontarogwy; David Roberts, Dinbych, a Cadwaladr Jones, Dolgellau. Bu y gwŷr uchod o wasanaeth dirfawr i grefydd yn ein gwlad, yn y pulpud, a thrwy y wasg, yn arbenig ddau o honynt, y naill fel awdwr y Geiriadur Duwinyddol rhagorol sydd genym, a'r llall fel Golygydd medrus y Dysgedydd, am y cyfnod maith o un flwydd ar ddeg ar hugain. Buasai yn hawdd i ni ysgrifenu penod helaeth ar fywyd a llafur pob un o'i gydefrydwyr, ond buasai hyny yn chwyddo y gwaith dros ein terfynau rhagosodedig. Efallai fod eraill o'r hen weinidogion wedi bod yn yr