Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Athrofa ar yr un adeg a'n gwrthddrych, ond methasom ni a chael sicrwydd am neb ond a enwasom. Darfu i alluoedd pregethwrol Mr. Williams ymlewyrchu yn nodedig o ddysglaer cyn ei ymadawiad o'r Athrofa. Bu ar deithiau yn y Deheudir yn ystod gwyl ddyddiau yr Athrofa, ac enillodd sylw arbenig, a chymeradwyaeth gyffredinol fel pregethwr ar y teithiau hyny. Wedi ei ddychweliad oddiyno y tro diweddaf, derbyniodd alwad oddiwrth eglwys barchus Horeb, Sir Aberteifi. Yr oedd hyn wedi ymadawiad Mr. Lloyd a Mr. Jones, y rhai a fuont yn cydweinidogaethu yn Horeb a'r cylch am beth amser, a chyn i Mr. Thomas Griffiths gael ei urddo yn weinidog i'r eglwys. Penderfynodd Mr. Williams ateb yr alwad o Horeb yn gadarnhaol; ac aeth mor bell ag eistedd i lawr i ysgrifenu yr atebiad iddi, ond pan yr oedd efe wrth y gwaith pwysig hwnw, daeth un o'i gyd-fyfyrwyr i'w ystafell, gan ei hysbysu fod caniatad i'r myfyrwyr oll i fyned gyda'u hathraw i gyfarfod pregethu oedd i'w gynal dranoeth yn Liverpool, ond fod yn rhaid iddynt gofio dychwelyd dranoeth wedi y cyfarfod. Rhoddodd yntau ei bin ysgrifenu o'i law yn y fan, ac ymaith àg ef yn llawen ei galon i'r wyl arbenig, gan feddwl yn sicr am orphen y llythyr wedi dychwelyd yn ol, ond nid oedd y llythyr hwnw byth i gael ei orphen." Wrth ddychwelyd o'r cyfarfod gyda'i athraw, galwasent eu dau yn nhy Mr. Thomas Jones, Cutler, yn