Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nghaer, yr hwn oedd yn foneddwr gwir grefyddol, cyfoethog, a haelionus iawn. Hysbysodd Mr. Lewis iddo fod Mr. Williams wedi derbyn galwad, a'i fod yn bwriadu ymsefydlu yn Horeb, Sir Aberteifi. Gwelodd Mr. Jones ar unwaith y buasai hyny yn golled na wyddid ei maint i'r enwad Annibynol yn Ngogledd Cymru, ac anogodd ef yn daer iawn i ymsefydlu yn y Wern a Harwd, gan ddwyn ar gof iddo fod ar yr enwad yn y Gogledd fwy o angen un o'i fath ef nag oedd arno yn y Deheudir, canys yr oedd gan y Deheuwyr eu Davies ddoniol a galluog yn Abertawe, a Hughes yn y Groeswen, yr hwn oedd yn un gronfa lawn o athrylith gref; a Williams yn Llanwrtyd, yn llawn o'r tân nefol; ac heblaw hyny, fod yr enwad Annibynol yn wanach yn y Gogledd nag ydoedd yn y Deheudir, a bod hyny yn un rheswm dros geisio ganddo roddi heibio y bwriad o fyned i Horeb. Sicrhaodd ef hefyd, na byddai arno eisieu dim daioni os yr elai efe i'r Wern. Pa fodd bynag, o herwydd ei daerni, llwyddodd Mr. Jones i'w berswadio i aros yn y Gogledd, ac anfonodd Mr. Williams ei atebiad nacaol i'r alwad o Horeb. Hysbysodd Mr. Jones eglwysi y Wern a Harwd o hyny, a rhoddasent hwythau alwad i Mr. Williams ar unwaith. Rhyfedd fel y cyfryngodd Rhagluniaeth y nef mor brydlon, fel ag i ddwyn hyn oddiamgylch yn llwyddianus; ac yn hyn oll, gwelir yn eglur mai nid eiddo dyn ei ffordd, ac mai nid ar