Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

law gwr a rodio y mae llywodraethu ei gerddediad, ond mai oddiwrth yr Arglwydd y mae ei gerddediad ef.

Dichon na ddaeth i galon ond ychydig o Annibynwyr yr oes hon i ddychmygu maint y daioni a wnaethpwyd gan Mr. Jones, Caer, i'r enwad Annibynol, ac i grefydd yn Nghymru, ac yn arbenig yn Ngogledd Cymru. Efe a sefydlodd ysgolion dyddiol a symudol yn ein henwad, ac a lwyddodd i gael Dr. George Lewis i'w harolygu, a bu hyny yn foddion i atal y gwr rhagorol hwnw rhag myned i America i drigianu fel yr oedd unwaith wedi bwriadu a rhagdrefnu i fyned. Bu Mr. Jones yn gynorthwy—ydd sylweddol, ac yn noddydd caredig i lawer eglwys wan ac anghenus. Efe, ar ei draul ei hun, ag eithrio ychydig gynorthwy gan amaethwyr yr ardal, a adeiladodd gapel cyntaf Rhesycae. Yn wir, ymestynai ei ofal dros yr holl eglwysi, a phryderai am eu llwyddiant. Yr oedd ef yn dywysog y cyfranwyr yn ei ddydd. Gresyn na buasai genym fwy o hanes y gwr rhagorol hwn. Gwnaethom bob ymdrech i sicrhau hyny, ond aflwyddianus fuom. Nid ydym yn deall ра fodd y bu ei gydoeswyr mor esgeulus gyda hyn o orchwyl. Fel y canlyn yr ysgrifenai y diweddar Mr. E. G. Salisbury, gynt o Gaer atom, a hyny ychydig amser cyn ei farwolaeth, "I am sorry that I cannot give you any information about Mr. Jones that is likely to be of service to you. I remember