Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

authorities, as the Trustees so originally named in this my will as aforesaid.'

Arwyddwyd yr ewyllys uchod Mai 5ed, 1810; yn ychwanegol, mewn ol—ewyllys o eiddo Mr. Jones, yr hon a arwyddwyd Gorphenaf 17eg, 1810, ceir a ganlyn:— And whereas I have in my hands the of fifty pounds left by the late John Henshaw of Wem, now I do hereby give and bequeath the same to the said John Dickinson, Charles Williamson, and Thomas Clubb, upon trust, to put and place the same out at interest, upon real or Government security, and to pay and apply the interest, dividends, and proceeds thereof for the support of the Welsh Charity Schools of which I am Treasurer.

Profwyd ei ewyllys yn Nghaer, Mai 5ed, 1814. Y mae holl ewyllys Mr. Jones, copi o'r hon sydd ger ein bron, yn wir ddyddorol, ond ni farnasom yn ddoeth gyhoeddi yma ond yn unig ei gymunroddion cyhoeddus i'r enwad Annibynol yn Nghymru. Y mae yr arian uchod, yn ol darbodion yr ewyllys, yn cylchdroi yn ein mysg er gwasanaeth yr enwad hyd y dydd heddyw. Bu farw Mr. Jones, a hyny yn dra sydyn, boreu dydd Gwener, Tachwedd 5ed, 1813, yn 76 oed. Claddwyd ef y dydd Iau canlynol yn mynwent capel yr Annibynwyr, Heol y Frenhines, yn Nghaer.

Dywedir yn y Chester Chronicle am ddydd Gwener, Tachwedd 12fed, 1813, am dano fel y