Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

canlyn: "Anfynych y collodd cymdeithas, ac anfynych y gall fforddio colli dynion fel Mr. Thomas Jones. Pa beth bynag sydd gyfiawn, teg, ac anrhydeddus mewn masnachwr; pa beth bynag sydd hawddgar mewn cyfaill, pa beth bynag sydd yn gariadus yn y dyngarwr, pa bethau bynag sydd yn gosod urddas ar Gristion, er cyfansoddi ei gymeriad, ac yn hyrwyddo ei ymdrechion, llewyrchodd y cyfryw rinweddau yn mywyd yr hwn y mae holl Gaer yn awr yn galaru am dano. Collodd y tlawd gyfaill, y cyfoethog esiampl i'w ddilyn, yr anwybodus ddysgawdwr, y trallodus ddyddanydd, yr anfad a'r drygionus rybuddiwr ac adferwr. Pan y mae y byd Cristionogol yn galaru ar ei ol, y mae yn ddiamheu ei fod ef ar ei enill, ond i'r rhai sydd yn crwydro yn yr anialwch, y mae eu colled hwy yn annhraethol fawr. Diolched y tlodion i Dduw am iddo arbed iddynt eu cymwynaswr am gyhyd o amser, a bydded i'w galar droi yn llawenydd, oblegid fod 'bendith yr hwn oedd ar ddarfod am dano,' yn eiddo i'w cyfaill ymadawedig." Tra y sonir am y gwaith a gyflawnodd gwrthddrych y cofiant hwn yn Ngogleddbarth Cymru, bydd coffa hefyd, am yr hyn a wnaeth Mr. Thomas Jones o Gaer, er dylanwadu ar Mr. Williams i wrthod yr alwad o Horeb, ac ymsefydlu yn y Wern. Er i Mr. Williams gael ei gymhell i aros yn yr Athrofa yn hwy, eto, wrth weled y cynhauaf yn fawr, a'r gweithwyr yn anaml iawn y dyddiau