Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iolaeth Mr Thomas, Ty'n-y-wern, am Mr. Williams yn dilyn Mr Hughes, o'r Groeswen, ar un o'i deithiau casglyddol yn y Gogledd—Llyfr casglu Mr. Hughes—Eglwys y Rhos yn llwyddo—Adeiladu ei chapel cyntaf—Mr. Williams yn casglu ato.

GAN nad yw y Wern yn nepell o Wrexham, nid oedd Mr. Williams mewn un modd yn ddyeithr i'r "praidd bychan" oedd yno, a hyny oblegid yr arferai y myfyrwyr o Athrofa Wrexham bregethu yn yr ardal o'r dechreuad. Yn debyg i'r myfyrwyr hyny oeddynt o dan ofal Eliseus gynt, y rhai a wnaethent iddynt eu hunain "le i gyfaneddu ynddo;" felly yntau, gwnaeth "le i gyfaneddu ynddo," oblegid yr oedd Mr. Williams yn un o'r myfyrwyr cyntaf, os nad y cyntaf oll, i bregethu i'r Annibynwyr yn ardal y Wern.

Yn Y Beirniad am 1866, mewn ysgrif ragorol o'i eiddo ar "y Wern," dywed y Parch. John Thomas, Wern (Leominster yn awr), fel y canlyn: "Dywedir wrthym mai mewn hen dŷ tô gwellt yn ochr y Nant, y cawsent ddrws agored gyntaf yn yr ardal. Y mae yr hen dŷ hwnw yn sefyll yn rhyw lun hyd y dydd hwn. Y mae yr olwg arno yn llwyd a diaddurn. Y mae yn llechu, megys am gysgod, yn mynwes y graig, ar lawr y Nant, a'r afonig yn murmur ei cherdd wrth fyned heibio. Ni welir mo hono braidd nes bod ynddo. Yr ydym wedi methu cael yr un enw arno. Y mae efe fel