Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tai y Nant i gyd, heb yr un enw ond enw y trigianydd, a'r enw yn cyfnewid fel y byddo y trigianydd yn symud. Sicrheir ni mai Edward a Margaret Pritchard oedd yn byw ynddo yr adeg hono. Nis gwyddom pa sut y daeth y myfyrwyr i fyned i'r ty hwnw, na pha flwyddyn yn sicr y pregethwyd ynddo y tro cyntaf; ond ymddengys ei bod yn rhywle tua diwedd y flwyddyn 1803, neu ddechreu y flwyddyn 1804. Rhoddodd Edward Pritchard le i'r arch ddyfod i'w dŷ, fel Obededom gynt, a diau na chollodd yntau ei wobr. Ymddengys ei fod yn un o'r aelodau cyntaf yn eglwys y Wern, fel y cawn sylwi eto. Yr ydym wedi dangos y ty i amryw weinidogion wrth fyned heibio, a phob un yn teimlo dyddordeb mawr pan yn cael ar ddeall mai yno y bu Williams o'r Wern yn pregethu gyntaf yn yr ardal. Pur ychydig o dai oedd yr amser hwnw yn ochr y Nant, ac y mae yn debyg fod y rhai oedd yn trigianu yn yr ychydig hyny yn myned i Adwy-y-clawdd i addoli. Symudwyd yr arch o'r Nant i'r Stryd, am ei fod, yn ddiau, yn lle mwy gobeithiol i gasglu cynulleidfa a dechreu achos.

Y mae Mr. John Griffiths, Frondeg, yn cofio yn dda ei fod yn hogyn bychan gyda'i dad a'i fam yn y Stryd, yn gwrando Mr. Thomas Powell a Mr. Williams yn pregethu, ac i'w dad a'i fam aros ar ol yn y gyfeillach y pryd hwnw. Testun Mr. Williams ydoedd Caniad Solomon iii. 9, 10,