Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gwnaeth y brenin Solomon iddo gerbyd o goed Libanus. Ei byst ef a wnaeth efe o arian, ei lawr o aur, ei leni o borphor; ei ganol a balmantwyd â chariad i ferched Jerusalem." Nid oes genym yr un dychymyg beth oedd addysgiadau Mr. Williams oddiwrth ei destun, ond y mae yn sicr i'r bregeth gael argraff ddwys ar feddyliau y gwrandawyr. Efe oedd eu hoff bregethwr y pryd hwnw. Yr oedd yr oedfa hono yn y ty y mae Mr. Robert Jones, hen was i Mr. Williams, yn byw yn bresenol, Bu yr oedfaon yn cael eu cynal am beth amser yn y ty hwn. Symudwyd oddiyno i dŷ arall yn ymyl, y ty a gyfaneddir yn bresenol gan Mr. Edward Shone, ond ty Mary Edwards y pryd hwnw. Yn y ty hwn y corffolwyd y dychweledigion yn eglwys Yma Annibynol, gan yr Hybarch Jenkin Lewis. hefyd y bu y cymundeb cyntaf, yr un amser ag y corffolwyd hwy yn eglwys. Y mae Mr. John Griffiths, Frondeg, yn cofio yn eithaf ei fod yn myned ar gefn merlyn ei dad i Wrexham i gyrchu yr Hybarch Jenkin Lewis i'r ty hwn i ffurfio yr eglwys, ac i roddi cymundeb iddi. Yr oedd hyn tua diwedd y flwyddyn 1804, neu ddechreu 1805. Tua'r un amser y corffolwyd eglwys y Gyfynys—eglwys Brynsion, Brymbo yn awr, gan yr Hybarch Jenkin Lewis. Casglodd Mr. Williams a'i gyd—fyfyrwyr y defnyddiau trwy lafur a hunanymwadiad mawr, a ffurfiwyd hwy yn eglwysi Annibynol gan eu hathraw parchus, Gwraig weddw oedd Mary