Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Edwards. Yr oedd yn aelod yn yr Adwy gyda y Methodistiaid Calfinaidd. Cafodd yr eglwys fechan ieuanc ymgynull yn ei thy bob Sabbath o'r pryd y corffolwyd hi, hyd nes adeiladu y capel cyntaf. Dywed Hiraethog yn hanes bywyd Williams o'r Wern, mai rhif yr aelodau yn y cymundeb cyntaf oedd pump; a dywed y Parch. D. Morgan, Llanfyllin, yr un peth yn Hanes Ymneillduaeth. Ymddengys i ni mai Hiraethog yw awdurdod Morgan, gan fod Hiraethog yn ysgrifenu yn 1841, a Morgan yn ysgrifenu yn 1855, 14 mlynedd ar ol Hiraethog. Ystyriwn hysbysiad Hiraethog yn awdurdod lled sicr; yr oedd Williams o'r Wern ac yntau yn gyfeillion mor anwyl. Ond yr anhawsder ydyw, penderfynu pwy ydoedd y pump. Mae yr anhawsder, nid i gael y rhif pump, ond i benderfynu y pump o rif mwy.

Yr ydym wrth holi a chwilio wedi cael enwau y personau canlynol fel rhai ag y mae tebygolrwydd mawr, o leiaf, eu bod yn y cymundeb cyntaf, Edward Davies y Parc, a'i wraig; Margaret Griffiths y Wern; Edward Griffiths, Caeglas, a Charlotte Griffiths ei wraig; Edward Pritchard, y Nant; a Mary Edwards, y Stryd. Y mae hyny yn gwneud saith, ac nid pump. Gan nas gallwn daflu hysbysiad Hiraethog dros y bwrdd heb wneud amryfusedd, rhaid i ni geisio dangos pa bump o'r saith a nodwyd oeddynt. Y mae yn sicr fod Edward Davies y Parc, a'i wraig, yn ddau o'r