pump. Dywed ein cyfaill, Mr. Richard Hughes, Ty'rcelyn, yn hanes marwolaeth Elizabeth, gwraig Edward Davies y Parc, yn y Dysgedydd am Chwefror, 1840, "Mai Edward Davies a'i wraig a sefydlasant eglwys y Wern, ac mai hwy ddechreu. odd yr achos yn Mhenystryd, Llandegla, cyn symud oddiyno i Wrexham." Yr oeddynt felly yn aelodau yn Wrexham cyn symud i'r Parc, ac felly nid oes amheuaeth nad oeddynt yn y cymundeb cyntaf. Gan eu bod yn aelodau yn Wrexham cyn symud oddiyno i'r Parc, y mae yn ddiau eu bod yn adnabyddus iawn â'r Hybarch Jenkin Lewis a'r. myfyrwyr; a chredwn fod ein casgliad yn hollol gywir, mai hwy fu yn offerynol i gael y myfyrwyr i ardal y Wern i bregethu. Nid oes yr un amheuaeth eto nad oedd Margaret Griffiths, y Wern, yn un o'r pump. Y mae llawer yn fyw a'i clywsent hi ei hun yn dweyd hyny lawer gwaith. Yr oedd hon yn hynod am ei duwioldeb; y mae ei henw yn berarogl yn y gymydogaeth hyd heddyw. Y mae yn bur debygol eto fod Edward a Charlotte Griffiths, Caeglas, yn y cymundeb hwnw. Cawn eu bod yn y gyfeillach yn hir cyn hyny, ac yn danfon merlyn i gyrchu yr Hybarch Jenkin Lewis i ffurfio yr eglwys, ac i roddi y cymundeb cyntaf. Wedi pwyso pob tystiolaeth yn ofalus, yr ydym yn barnu mai y pump a enwyd oeddynt. Buasai yn foddhad mawr genym pe buasai eu henwau wedi eu croniclo pan oedd un o honynt yn fyw. Nid mewn
Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/127
Gwedd