Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

capel hardd nac eglwys gadeiriol yr oedd y pump. hyn wedi ymgynull i gofio angeu y Gwaredwr, ond mewn hen dŷ digon gwael yr olwg allanol arno. Er hyny, pan gofiwn mai yno y ffurfiwyd eglwys y Wern, ac y bu y cymundeb cyntaf, nis gallwn yn ein byw edrych arno fel lle dinod. Y mae yn agos gynifer o aelodau eglwys y Wern yn byw yn y ty hwn. yn awr ag oedd yn gwneud i fyny yr holl eglwys ar ei chychwyniad. Lluosogodd y gynulleidfa yn gyflym, ac ymunodd llawer â'r eglwys yn y ty hwn, fel yr aeth y ty anedd yn rhy fychan. Dywedai y llais dwyfol, "'D'od le i mi fel y preswyliwyf."

Adeiladwyd y capel cyntaf yn y flwyddyn 1805, ychydig yn uwch i fyny na'r lle y saif y capel presenol. Pur fychan ac anghelfydd ydoedd, heb nag oriel na chor ynddo. Yr oedd y drws yn y tu cefn iddo. Y mae wedi ei droi yn dŷ anedd er's blynyddau lawer. Y mae yn gofus gan Mr. John Griffiths, Frondeg, fod gwedd ei dad am ddiwrnodau lawer yn llusgo coed, calch, a cheryg ato yn rhad. Y mae amryw o hen bobl y Wern yn cofio yn dda eu bod y myned yno i'r oedfaon pan yn blant. Trwyddedwyd y capel hwn i bregethu ynddo gan Samuel, Arglwydd Esgob Llanelwy. Danfonwyd deiseb am y drwydded Gorphenaf 24ain, 1805, ac y mae y drwydded wedi ei dyddio Medi 13eg, 1805. Y mae y ddeiseb a'r drwydded wedi bod yn ein llaw—y ddeiseb wedi ei hysgrifenu gan yr Hybarch Jenkin Lewis, a'r drwydded gan