Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Buwyd yn y capel hwn yn addoli yn nghylch dwy flynedd, sef hyd y flwyddyn 1807. Traddodwyd llawer pregeth effeithiol; cafwyd llawer cymundeb nefolaidd, a dychwelwyd llawer at yr Arglwydd ynddo. Bu y Parch. Moses Ellis, Mynyddislwyn, cyn iddo ddechreu pregethu, yn cadw ysgol ddyddiol ynddo. Buan iawn yr aeth y lle hwn eilwaith yn rhy gyfyng, fel yr oedd yn rhaid "helaethu lle y babell, ac estyn allan gortynau y preswylfeydd."

Wrth ddarllen y dyfyniad a roddir uchod o ysgrif Mr. Thomas, dylid cadw mewn cof yr adeg yr ysgrifenwyd hi, canys heb hyny nid ydyw yn ddealladwy, oblegid yr oedd rhai o'r personau a enwir ynddi yn fyw yr adeg hono; "y rhai oeddynt eu hunain o'r dechreuad yn gweled" llawer o'r ffeithiau a fynegir i ni ganddo, ond erbyn hyn, eu lle hwythau nid edwyn ddim o honynt mwy; ac ni welir ond y fan lle gynt y safai y ty y pregethwyd gyntaf ynddo gan yr Annibynwyr yn yr ardal, canys y mae yr hen anedd wedi ei chwalu yn gydwastad â'r llawr. Blwyddyn a adwaenir gan eglwys y Wern, fel un hynod yn ei hanes, yw 1807, canys dyma y flwyddyn yr adeiladodd ei hail gapel, yn y lle y saif y capel presenol; ac heblaw hyny, dyma y flwyddyn y dechreuodd Mr. Williams ar ei weinidogaeth yma, ac yn Harwd. Aeth i letya at Mr. Joseph Chalenor, Y Machine, Pentre'rfron, gerllaw Adwy-y-clawdd, lle y bu yn nodedig o gysurus am yn agos i ddeng mlynedd, sef hyd nes y priododd,