Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ydym yn cael ein gwron yn pregethu mewn cymanfa yn Machynlleth, yr hon a gynaliwyd ar y dyddiau Mercher a Iau, Medi 28ain a'r 29ain, 1808. Gan ei bod y gymanfa gyntaf iddo ef bregethu ynddi, rhoddwn ei hanes fel y ceir ef yn hanes "Cymanfaoedd yr Annibynwyr," gan y Parch. J. Ll. James (Clwydwenfro), tudal. 158, 159.—" Dechreuodd yr addoliad ddydd Mercher yn agos i un o'r gloch, pryd y darllenwyd, y canwyd mawl, ac y gweddiodd y Parch. W. Hughes, Dinas Mawddwy. Pregethodd y Parch. W. Williams, Wern, oddiwrth Esa. ix. 6; a'r Parch. David Jones, Treffynon, oddiwrth Ioan xiv. 16. Yna cadwyd cyfeillach neillduol gan y gweinidogion, yr hon a ddechreuwyd drwy weddi gan y Parch. H. Pugh, Brithdir, ac a ddiweddwyd drwy weddi gan y Parch. G. Lewis, Llanuwchllyn. Am 6 yr hwyr, dechreuwyd drwy fawl a gweddi gan y brawd Cadwaladr Jones. Pregethodd y Parch. P. Maurice, Ebenezer, oddiwrth 1 Pedr i. 16; a'r Parch. T. Jones, Saron, oddiwrth Dat. iii. 10. Boreu dydd Iau, am haner awr wedi 6, dechreuwyd drwy fawl a gweddi, gan y Parch. J. Evans, Amlwch, a phregethodd y brawd R. Jones, Llanfyllin, oddiwrth 1 Cor. vi. 20; a'r Parch. W. Jones, Trawsfynydd, oddiwrth Rhuf. i. 9. Am 10, dech, reuwyd drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, a phregethodd y Parch. T. Phillips, Neuaddlwyd, ar Natur y gyfraith, a