Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyben ei rhoddiad, oddiwrth Gal. iii. 19. (y rhan flaenaf), a'r Parch. M. Jones, Trelech, ar Natur ac ardderchawgrwydd yr efengyl, oddiwrth 2 Cor. iv. 4. Am 2, dechreuwyd drwy fawl a gweddi, gan y Parch. J. Lewis, Bala; a phregethodd y Parch. J. Lloyd, Henllan, oddiwrth Rhuf v. 20 a'r Parch. D. Williams, Llanwrtyd, oddiwrth 2 Cor. v. 17.

Bu cyfarfodydd yn yr hwyr yn y dref, yn Aberhosan, ac yn Pennal. Cawsom brofi neillduol diriondeb yr Arglwydd, a lle cysurus i gredu ei fod yn foddlon i'n Cymanfa. Rhoddodd hin ddymunol, ac arwyddion o neillduol gynorthwyon i eneuau cyhoeddus." Gwelir fod Mr. Williams, yn pregethu yn y Gymanfa uchod fis union cyn ei urddiad. Dengys hyn y safle uchel yr oedd efe wedi dringo iddi y pryd hwnw yn syniad y bobl am dano fel pregethwr arbenig.

Gan nad oedd yn ddefod yn mysg yr Annibynwyr y dyddiau hyny i osod o honynt eu dwylaw yn ebrwydd ac yn derfynol ar neb rhywun, bu Mr. Williams, yntau, yn llafurio yn y Wern a'r cylchoedd am yn agos i flwyddyn cyn cael ei ordeinio yn weinidog iddynt.

Ymddengys hyn yn rhyfedd yn ein dyddiau brysiog ni, ond pe y buasem fel enwad wedi parhau i rodio yn ol y rheol hon, buasai hyny wedi ein diogelu rhag cael achosion mewn rhai amgylchiadau i edifarhau, am ddarfod i ni ymadael â'n harferiad cyntaf. Fodd bynag, ni ordeiniwyd Mr.