Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Williams hyd Hydref 28ain, 1808, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur pwysig hwnw fel y canlyn: Dechreuwyd drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. William Hughes, Dinas Mawddwy; pregethodd Dr. George Lewis, Llanuwchllyn, ar Natur Eglwys, a gweddiodd y Parch. William Jones, Trawsfynydd, yr Urdd-weddi. Traddododd y Parch. Jenkin Lewis, Wrexham, y Siars i'r gweinidog, oddiwrth Hebreaid xiii. 17: "Ufuddhewch i'ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch; oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi, megys rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif; fel y gallont wneuthur hyny yn llawen, ac nid yn drist: canys difudd i chwi yw hyny;" a thraddododd y Parchn. John Roberts, Llanbrynmair, Gynghor i'r eglwys, oddi-wrth yr un geiriau. Pregethwyd y prydnawn a'r hwyr, gan y Parchn. James Griffiths, Machynlleth, a John Jones, Liverpool. Yr oedd teimladau Mr. Williams yn nodedig o ddrylliog yn ystod gwasanaeth ei ordeiniad; ac nid rhyfedd hyny, canys nid oedd efe heb feddu syniad ac ymdeimlad priodol am fawredd a phwysigrwydd y gwaith yr ydoedd efe y dydd hwnw yn cael ei neillduo iddo yn gyhoeddus.

Clywsom yr hynafgwr parchus a chrefyddol Mr. David Evans, Plas Buckley, yn dweyd ei fod ef yn blentyn bach gyda'i fam yn nghyfarfod ordeinio Mr. Williams, a'i fod yn cofio ei weled yn wylo, a gofynodd y bychan i'w fam "Beth mae Mr. Williams yn crio, mam?"