Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dichon mai Mr. Evans yw yr unig un sydd yn fyw heddyw o'r rhai oeddynt yn bresenol yn y cyfarfod uchod, a hyny yn mhen pedwar ugain a phedair o flynyddoedd wedi i'r amgylchiad fyned heibio. [1]

Bellach, y mae genym i'w ddal gerbron, ac i edrych ar ein gwrthddrych yn nghyflawniad dyledswyddau ei swydd aruchel o "weinidog da i Iesu Grist." Gwelwn iddo fedyddio merch fechan i Mr. Edward a Charlotte Griffiths, Caeglas; a hyny ar Hydref 30ain, 1808, sef yn mhen dau ddiwrnod ar ol ei ordeiniad, yr hon a alwyd yn Margaret. Yr oedd y Margaret uchod yn gyfnither i'r hon a ddaeth i gael ei hadnabod wedi hyny yn Mrs. Williams o'r Wern.

Nid oedd gan yr Annibynwyr yn sir Ddinbych, ar ddechreuad gweinidogaeth ein gwron, ond un ar ddeg o addoldai, sef Wrexham (Chester Street), Dinbych, Wrexham (Penybryn), Llanrwst, Capel Garmon, Llangwm, Wern Harwd, Moelfro, Pentrefoelas, a Rhuthyn. Ac nid oedd yn sir Fflint ond pump, sef Newmarket, Treffynon, Buckley, Bagillt, a Rhes-y-cae. Nid oedd y Wern a Harwd, ond megys dwy fesen newydd-blanedig yn y tir, ac yn dechreu ffrwytho, fel nad oedd ond cariad at ei Arglwydd yn llosgi yn nghalon Mr. Williams i'w gymhell i ofalu am danynt, gyda gofal a thynerwch, hafal i'r eiddo

  1. Wedi i ni ysgrifenu yr uchod. bu Mr. Evans yntau farw Tachwedd 15fed, 1892, yn 91 mlwydd oed.