Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tad am ei blant anwyl ganddo. Fodd bynag, efe a ymwregysodd at ei waith mawr, gan roddi prawf eglur a buan, drwy ei lafur a'i ysbryd cyhoeddus, y ceid ynddo ef un galluog a ffyddlawn i'r Hwn a'i galwodd ac a'i gosododd yn y weinidogaeth, canys deallwyd yn ebrwydd fod yr Arglwydd wedi rhoddi iddo drysorau cuddiedig, ac wedi datguddio iddo guddfeydd dirgel yr Ysgrythyrau, a'i fod yntau yn meddu ar fedr arbenig i ddwyn allan o'i drysorau bethau newydd a hen, yn y fath fodd fel ag i swyno gwlad o bobl i ddyfod i wrando yr hyn a leferid ganddo. Yr ydym yn ei gael ddydd Llun y Sulgwyn, 1809, yn gwasanaethu gyda'r Parchn. T. Jones, Newmarket, a T. Jones, Moelfro, yn agoriad capel cyntaf Rhes-y-cae. Dywedir fod y cyfarfod hwnw yn un llewyrchus o ran poblogrwydd, a hynod iawn o ran yr effeithiau nefol a deimlid ynddo.

Hyd y gwelsom ni, dyma y cyfarfod cyntafi Mr. Williams bregethu ynddo wedi ei ordeinio. Teimlid ei fod yn angenrhaid bellach yn ngwyliau arbenig ei enwad, a daeth yr enw "Williams o'r Wern" ar unwaith yn anwyl a chysegredig ar aelwydydd Gwyllt Walia yn gyffredinol. Derbyniodd eglwys y Wern, hithau, enwogrwydd arhosol, na buasai byth yn bosibl iddi ei etifeddu oni buasai ei fod wedi ei roddi iddi drwy ei chysylltiad â'r Parchedig William Williams. Meddylia casglydd hanes 'Cymanfaoedd yr Annibynwyr," mai ein gwrth-