Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddrych oedd y Parch. W. Williams, Drefnewydd, yr hwn a bregethodd yn Nghymanfa Crugybar y dydd Iau olaf o Fehefin 1809; canys dywed ar waelod tudalen 167 o'r gwaith gwerthfawr hwnw, "Meddyliwn mai W. Williams, Wern, oedd hwn; yr oedd newydd gael ei urddo o Athrofa y Drefnewydd, ac felly heb gael amser i wneud enw y Wern yn ddigon enwog." Dichon y dylid nodi mai camgymeriad yw hyny, oblegid mai o Athrofa Wrexham yr urddwyd ein gwrthddrych, a bu yr Athrofa yn y dref hono hyd 1816, pryd y symudwyd hii Lanfyllin, ac oddiyno drachefn i'r Drefnewydd yn 1821. Diau mai y Parch. W. Williams, Drefnewydd, Morganwg, oedd yr un a bregethodd yn Nghymanfa Crugybar yr adeg a nodwyd, yr hwn a urddwyd Gorphenaf 21ain, 1808. Llwyddai eglwys y Wern yn gyflym dan weinidogaeth Mr. Williams. Yr oedd ychydig o frodyr a chwiorydd hefyd yn ymgynull yn nghyd i addoli Duw mewn lle o'r enw y Pant, yn Rhosllanerchrugog. Pregethid iddynt gan Mr. Williams, a'r myfyrwyr o Wrexham ar gylch, ac yn rheolaidd. Yn nechreu 1810, sefydlwyd hwy yn eglwys. Saith oedd eu nifer ar y pryd, ac yn Awst y flwyddyn hono, symudasent o'r Pant i ystafell arall yn y Rhos. Ymofynasent â'r Parch. J. Lewis yr athraw o Wrexham, am weinidog i'w bugeilio. Cynghorodd yntau hwy i roddi eu hunain o dan ofal Mr. Williams; ac wedi ymgynghoriad priodol,