Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cydsyniodd yntau â'r gwahoddiad. Erbyn hyn yr oedd ganddo, yn ychwanegol at ofalu am y Wern a Harwd, i ofalu hefyd am y Rhos; ac fel yr oedd maes ei lafur yn eangu, yr oedd ei ddyddordeb yntau yn mhob symudiad daionus yn cynyddu. Er fod Mr. Williams wedi ymadael o'r Athrofa, eto ni phallodd ei ddyddordeb ynddi, a'i ofal am gysur, cynydd, a defnyddioldeb y myfyrwyr. Ymwelai yn fynych â'r athrofa, tra y bu y sefydliad heb ei symud i Lanfyllin. Fel y canlyn y dywed y Parch. Michael Jones, Llanuwchllyn, am yr ymweliadau bendithiol hyny o'i eiddo[1] —"Byddai yn dyfod yno at y myfyrwyr yn aml, nid fel un mewn swydd, ond fel cyfaill ac ewyllysiwr da i wybodaeth, a byddai yn cadw cyfarfodydd gyda'r gwŷr ieuainc am awr neu ddwy, a byddai rhyw fater dyrus yn aml mewn duwinyddiaeth neu anianyddiaeth yn cael ei olrhain mewn modd syml ac eglur, nes y byddai yn adeiladaeth fawr i feddyliau y myfyrwyr gwyddfodol. Byddai yr ymweliadau hyn o'i eiddo yn fendithiol iawn i eangu eu deall, ac i'w tueddu i fyw yn fwy duwiol, i wneuthur gwell defnydd o'u hamser, er eu cynydd eu hunain, lles eraill, a gogoniant Duw. O'm rhan fy hun, gallaf dystiolaethu fod hyn yn un o'r pethau mwyaf bendithiol a gefais tra yn yr Athro fa hono; yr ydwyf yn rhwym o ffurfio fy syniadau duwinyddol yn ol gair Duw, a'm syniadau anian-

  1. Cofiant Mr. Williams, gan Dr. Rees, tudal, 91—92.