Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yddol yn ol prawf achos ac effaith, ond bu efe yn offeryn da i ddwyn fy meddwl i weithredu ar y pethau hyn, a'i hwylio yn ei ymchwil i ddirnad drosto ei hun er graddau o foddlonrwydd. Diau genyf fod gradd helaeth o wybodaeth gyhoeddus wedi ei chyfranu trwy ei ymdrechion hyn gyda'r myfyrwyr; ond mwy na'r cwbl oedd, y byddai ei holl ymdrin â ni yn tueddu yn fawr er hunanymroddiad i Dduw, a'n dwyn i fyw yn fwy duwiol; dangosai yn eglur i ni mewn modd siriol a deniadol, y byddai ein bywyd gweinidogaethol yn ol ein bywyd athrofaol, ac y byddem yn sicr o fagu yr eglwysi dan ein gofal o'r un ysbryd ac chwaeth a ni ein hunain, am hyny, os mynem i'r eglwysi fod yn dduwiol, a'r byd i deimlo ein gweinidogaeth, y byddai yn rhaid i ni yn gyntaf fod yn yr unrhyw agwedd ein hunain; magai a meithrinai ni yn fawr yn y pethau hyn."

Ystyriwn fod y dystiolaeth uchod yn un werthfawr iawn, yn enwedig fel y mae wedi ei rhoddi gan un a fu ei hunan yn llygad-dyst o'r pethau a fynega efe i ni, ac yn arbenig felly pan gofiwn na byddai Mr. Jones byth yn cymeryd ei gario gan ei deimladau, fel ag i draethu pethau wrth eraill, heb yn gyntaf eu meddwl yn briodol ei hunan. Cydnebydd pawb a wyr ddim am y bywyd colegol, a'r rhyddfrydigrwydd brawdol a fodola cydrhwng yr efrydwyr a'u gilydd, y rhaid fod yn Mr. Williams rywbeth neillduol iawn, cyn y buasai yn gallu enill