Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y fath ddylanwad ar y myfyrwyr, tra nad oedd efe eto ond ieuanc, ac heb fod ond ychydig amser wedi myned heibio er pan yr ymadawodd efe ei hun o'r athrofa. Heblaw hyny, nid dygwyddiad yn ei hanes, ond ei arferiad oedd hyn, canys y mae genym dystiolaeth bellach o eiddo y Parch. William Jones, Amlwch, yr hwn oedd yn yr Athrofa pan y symudwyd hi o Wrexham i Lanfyllin, ac fel y canlyn y dywed ef[1]—"Bu hefyd fel tad a brawd i'r myfyrwyr tra yr oedd yr Athrofa yn gyfagos iddo yn Wrexham, ac yn wir, ymwelai â hwynt yn fynych wedi ei symudiad o'r lle hwnw. Yr oedd ein hybarch athraw, y diweddar Barch. G. Lewis, D.D., yn wir hoff o hono. Pan y deuai i'r dref, wedi talu ymweliad â'n hathraw, rhoddai ei gyfeillach yn rhydd a siriol i'r myfyrwyr; cyrchem bawb yn dra awyddus i'r man lle y clywem ei fod, ac yn bur anfynych, os un amser yr ymwelai â ni, heb fod ganddo rywbeth pwysig i dynu ein sylw arno er ein gwir adeiladaeth, a byddai croesaw i ni osod o'i flaen unrhyw fater a ymddangosai yn anhawdd, neu yn ddyrus i ni, gwnai ei oreu bob' amser i'w chwalu a'i egluro i'n meddyliau. Trwy y byddem yn llafurio yn ei gapeli bob yn ail Sabbath âg ef, yn gynorthwyol iddo, byddem yn fynych yn cael yr hyfrydwch o letya gydag ef nos Sadwrn, neu nos Sabbath, a thrwy hyny yn cael bod yn dystion o'i weddiau taerion ar ein rhan.

  1. Cofiant Mr. Williams, gan Dr. Rees, tudal. 109, 110.