Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cofus iawn genyf am ei weddi yn deuluaidd un—boreu Sabbath drosof fi a'm cydfyfyrwyr; nid yw yr argraffiadau a wnaed ar fy meddwl a'm teimlad y pryd hyny wedi eu dileu hyd yr awr hon; ac y mae yn dra sicr genyf, mai nid pan y byddem yn bresenol yn unig y cofiai am danom, ond ein bod yn cael rhan helaeth yn ei weddiau yn wastadol; oblegid gwyddom fod y weinidogaeth ag oedd yn codi i fyny yn cael lle dwys ar ei feddyliau ef, fel un ag oedd mor helaeth yn ei ysbryd cyhoeddus, ac mor wresog yn ei gariad at achos yr Arglwydd.

Hefyd, nid oedd neb ag a lawenhai yn fwy nag ef yn ein cynydd a'n llwyddiant mewn addysg, er bod yn ddefnyddiol yn ein hoes. Ar derfyniad amser pob myfyriwr yn yr Athrofa, cynelid cyfarfod neillduol rhyngddo ef a'i frodyr cyn ei ymadawiad, i weddio dros eu gilydd, ac i gynghori y y naill y llall; Mr. Williams a fyddai ein cadeirydd bob amser ar yr achlysuron hyny; ac wedi i bob brawd draethu y cynghor a fyddai ar ei feddwl i'r brawd a fyddai ar ymadael, ac iddo yntau roddi ei. gynghorion iddynt hwythau a fyddent yn aros ar ol, yna rhoddai y cadeirydd iddo gynghorion, a'i anogaethau difrifol, a therfynai y cyfarfod drwy weddi yn wresog a thaer ar ei ran. Nid peth hawdd a fyddai anghofio yn fuan y cyfarfod hwn. Yn y modd hwn yr oedd y caredigrwydd mwyaf a'r cyfeillgarwch penaf yn bod rhwng y myfyrwyr a Mr. Williams dros y blynyddau