Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a dreuliasent yn gymydogaethol iddo; ac nid wyf yn cofio am y gradd lleiaf o oerfelgarwch yn neb o honom tuag ato, nag am un arwydd o hyny ynddo yntau tuag atom ninau, a diau genyf fod hyn wedi gosod i lawr sylfaen cyfeillgarwch am eu hoes rhyngddo ef a'r rhai a gawsent y fraint o dreulio eu hamser yn yr Athrofa yn gymydogaethol iddo. Byddem weithiau yn cael cyfleusdra i'w wrando yn pregethu, yr hyn a fyddai yn dra hyfryd genym, ac yn wir adeiladaeth i'n meddyliau."

Nid oes angen ychwanegu dim at yr uchod, er dangos ei wasanaeth anmhrisiadwy i'r Athrofa a'r myfyrwyr, ond yn unig fynegu nas gellir byth amgyffred hyd a lled y dylanwad daionus a gyrhaeddodd efe drwy y gwasanaeth hwn o'i eiddo i'w enwad. Er na adawodd Mr. Williams gofnod-lyfr ar ei ol, fel ag i'n galluogi i'w ddilyn yn fanwl yn ei holl symudiadau cyhoeddus, eto gwelwn y byddai "mewm teithiau yn fynych," yn nechreuad ei dymhor gweinidogaethol. Rhaid cofio hefyd fod teithio y wlad yn y dyddiau hyny, yn beth gwahanol iawn i'r hyn ydyw yn ein dyddiau ni, oblegid nid oedd y cledrffyrdd wedi eu gweithio fel rhwydwaith dros wyneb ein Talaeth, ar hyd pa rai yn awr y rhed y cerbydresi clyd, bron i bob cilfach a chwm, yn gystal ac i'r trefydd mawrion, a'r mân bentrefi yn y wlad, gan dywallt o honynt ein cenadon hedd, bron wrth ddrysau