Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ein haddoldai, a hyny mewn ychydig oriau ar ol iddynt gychwyn o'u cartrefi. Ond nid oedd yn y dyddiau gynt dynged well i'n hefengylwyr na cherdded oddiamgylch, os na byddai ffawd wedi eu galluogi i bwrcasu anifail i'w cludo. Fodd bynag, rhaid oedd myned drwy wynt a gwlaw, haf a gauaf, oerni a gwres, ac ar fynyddoedd uchel, ffyrdd a llwybrau anhygyrch, y gwelid gynt draed yr efengylwyr, cyhoeddwyr heddwch, a'r rhai oeddynt yn mynegu daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth, ac yn dywedyd wrth Seion, dy Dduw di sydd yn teyrnasu. Trwy ymdrech ddiball y tadau i deithio ein gwlad fel hyn, a'r nerth dwyfol oedd yn nodweddu mor amlwg eu cenadwri, yr effeithiwyd ar ein Tywysogaeth mor lwyr a thrwyadl, nes mewn cymhariaeth y mae y wlad oedd o'u blaen yn ddiffaethwch annhreithiedig, ar eu hol fel gardd baradwys; a bu gan ein gwron law arbenig mewn dwyn oddiamgylch y cyfnewidiadau grasol, y rhai a barasent i'r anialwch a'r anghyfaneddle lawenychu o'u plegid, ac i'r diffaethwch orfoleddu a blodeuo fel rhosyn. Yn nghymanfa Sir Gaernarfon, yr hon a gynaliwyd yn Salem, Llanbedr, Gorphenaf 4ydd, 1810, gweinyddwyd fel y canlyn: Am 9, dechreuwyd y gwasanaeth drwy ddarllen a gweddio gan Mr. H. Williams, Cheltenham. Pregethodd y Parchn. J. Lewis, Bala, oddiwrth 1 Ioan iv. 9; a B. Jones, Pwllheli, oddiwrth 2 Pedr i. 10. Yn y prydnawn, pregethodd y Parchn. W. Williams,