Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wern, oddiwrth Dat. xxii. 20; a G. Lewis, Llanuwchllyn, oddiwrth Heb. ix. 28. Yn yr hwyr, pregethodd y Parchn. D. Davies, Rhes-y-cae, oddiwrth Luc xx. 31; a W. Hughes, Brynbeddau, oddiwrth Ioan x. 27. Hefyd pregethwyd y nos flaenorol gan y Parchn. T. Jones, Newmarket, a D. Jones, Treffynon. Methasom a gweled ddarfod i Mr. Williams weinyddu mewn cymanfa ar ol ei ordeiniad cyn yr uchod. Yr oedd amgylchiadau yr achos y fath, fel y gorfodid gweinidogion yn yr oes hono i deithio llawer i gasglu at ddiddyledu addoldai. Cefnogai Mr. Williams y cyfryw ymwelwyr yn garedig, fel y dengys y nodyn gwerthfawr a ganlyn, yr hwn a anfonwyd i ni gan Mr. T. Thomas, Ty'nywern,—"Bu Mr. Hughes o'r Groeswen, a Mr. D. Beynon o Ferthyr, (wedi hyny o Lanerchymedd), ar daith drwy y Gogledd yn casglu at Gapel Llantrisant, Morganwg. Cychwynasent yn Ebrill, 1811, a buont ar eu taith am tua naw wythnos. Dilynodd Mr. Williams o'r Wern hwy am oddeutu wythnos, a dywedai ar ol y bregeth y noson olaf, gan godi ei ddwylaw i fyny, "Wel, Hughes dragwyddol,' gan gyfeirio at ddawn diderfyn ac hyawdledd Ilifeiriol y llefarwr. Yr oedd Mr. Hughes, mae'n debyg, yn pregethu pregeth wahanol yn mhob oedfa. Arwyddodd Mr. Williams ei enw wrth lyfr casglu Mr. Hughes fwy nag unwaith. Y mae y llyfr hwnw genyf, a chadwaf ef tra fyddaf byw.