Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae ynddo enwau amryw o enwogion y pulpud Cymreig yn nechreu y ganrif hon, megys Mri. Griffiths, Caernarfon; Roberts, Llanbrynmair; Michael Jones, Llanuwchllyn; Powell, Rhosymeirch; a'r mwyaf o'r oll, "Mr. Williams o'r Wern." Gwelir mai yn mhen tua dwy flynedd a haner wedi ordeiniad Mr. Williams, y cymerodd yr amgylchiad uchod le. Megys y gwna haiarn hogi haiarn, a gwr wyneb ei gyfaill, felly hefyd, nis gallasai dilyn pregethwr mor drydanol, ag ydoedd Mr. Hughes o'r Groeswen, lai nag effeithio yn ddyrchafol ar ein gwron fel pregethwr. Erbyn hyn yr oedd doniau dysglaer a nerthol Mr. Williams yn ad-dynu y lluaws yn nghyd i'w wrandaw yn mha le bynag y byddai yn pregethu, a'r achosion yn y Wern a'r Rhos yn cynyddu yn gyflym. Gorlenwid yr ystafell yn y Pant, fel yr aeth yn rhy gyfyng gan breswylwyr.

Yn y flwyddyn 1812, penderfynodd yr eglwys a ymgyfarfyddai yn y Pant, Rhos, adeiladu capel iddi ei hun, yr hwn a gwblhawyd yn y flwyddyn a nodwyd, a symudodd yr eglwys i'w chapel newydd. Tybiai llawer y pryd hyny, mai rhan o'r portread nefol, yr hwn a ddangoswyd yn y mynydd i bob cenad anfonedig o eiddo Duw, ydoedd iddynt fyned yn gyfrifol am ddyledion addoldai newyddion, a chasglu at eu diddyledu hefyd, ac mai prawf o'u ffyddlondeb i wneuthur o honynt bob peth yn ol y cyfryw bortread, oedd eu mynych deithiau casgl-