Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VI.

O ADEILADIAD CAPEL CYNTAF Y RHOS HYD GYMANFA HOREB. 1812—1820.

Y CYNWYSIAD.—Dechreu achosion newyddion yn Llangollen a Rhuabon—Rhywbeth heblaw rhagrith—Yr eglwysi ag eithrio Harwd, yn cynyddu dan weinidogaeth Mr. Williams—Ei arddull bregethwrol—Oedfa yn Nhowyn, Meirionydd—Y dadleuon duwinyddol— Hergwd i Arminiaeth—Mr. Williams yn Galfiniad lled uchel yn nyddiau boreuaf ei weinidogaeth —Gwasanaeth Mr. Roberts o Lanbrynmair, a Mr. Williams—Tystiolaeth yr Hybarch W. Daniell, Knaresborough, am y cyfnewidiad a gymerodd le yn marn ein gwrthddrych ar bynciau athrawiaethol crefydd—Rheswm Mr. Williams dros newid ei farn—Ei atal i bregethu yn Sir Fynwy—Ei gyd-gynorthwywyr—Y"Prynedigaeth," a'r "Galwad Ddifrifol" Rhoddi ystyr fasnachol i'r Iawn— Ystyried y rhai a gilient oddiwrth yr Athrawiaeth hono yn gyfeiliornwyr peryglus—Poblogrwydd Mr. Williams fel pregethwr—Ei briodas Myned i drigianu i Langollen—Yr achos Annibynol yno —Agoriad capel Llangollen—Yr ysbryd cenadol yn deffroi yn y wlad—Y Deheudir yn blaenori—Cymanfa y Groeswen, a Chyfarfod Cenadol Aber— tawe—Cychwyniad yr achos Cenadol yn y Gogledd Cyfarfodydd Llanfyllin a Threffynon Ein gwrthddrych yn cymeryd dyddordeb yn y Cymdeithasau