Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Beiblaidd a Chenadol—Apeliad y Parch. Richard Knill—Effaith yr apeliad ar MR. a MRS. Williams—Ei Araeth nodedig yn Llangollen— Cymanfa Horeb, Sir Aberteifi—Tystiolaethau yr Hybarch W. Evans, Aberaeron, y Parch. J. B. Jones, B.A., a Hiraethog, am y nerthoedd rhyfedd oedd yn cydfyned â phregeth ein gwrthddrych yn y Gymanfa hono

HEBLAW gofalu am ddyfrhau yr eglwysi oeddynt yn uniongyrchol dan ofal gweinidogaethol Mr. Williams, yr adeg hon, ymchwyddai afon ei weinidogaeth bur dros ei cheulanau arferol, gan ymledu a llifeirio tua Llangollen a Rhuabon. Dechreuodd ef yr achosion yn y lleoedd a nodwyd, y naill yn 1811, a'r llall yn 1813. Pregethodd ei bregeth gyntaf yn Rhuabon yn 1813, oddiwrth Luc xxiv. 47: "A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef yn mhlith yr holl genhedloedd, gan ddechreu yn Jerusalem." Dywed Dr. W. Rees, yn gofiant i Mr. Williams, tudalen 21ain, y "Bu y bregeth hon yn allu Duw er iachawdwriaeth i rai eneidiau. Dygwyddodd i un dyn tra annuwiol ac erlidgar ddyfod heibio i'r ty ar amser y bregeth, a throes i mewn. Ymaflodd y gwirionedd yn ddwys yn ei feddwl, a chaled oedd iddo geisio gwingo yn erbyn y symbylau; ac efe oedd un o'r rhai cyntaf a ddaethent yn mlaen i ymofyn am aelodaeth eglwysig yn Rhuabon; yr oedd yn un o'r ychydig