Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nifer yn ffurfiad cyntaf yr eglwys yno. Yr oedd Mr. J. Breese, ag oedd yn fyfyriwr y pryd hyny, yn cynorthwyo Mr. Williams yn yr amgylchiad hwn." Adeiladwyd y capel yma yr un flwyddyn ag y dechreuwyd yr achos. Erbyn hyn, yr oedd ganddo bump o eglwysi i ofalu am danynt, a gwnaeth hyny yn ffyddlon nodedig, yn enwedig wrth gymeryd i ystyriaeth ei lafur cyhoeddus yn yr holl enwad, a phellder ei eglwysi oddiwrth eu gilydd. Elai i wahanol gyfarfodydd wythnosol yr eglwysi gyda chysondeb diball, ag eithrio yr adegau pan y byddai ar ei deithiau pregethwrol. Cyddeithiai ef a'i letywr ffyddlon, Mr. Joseph Chaloner, yn aml adref o gyfeillachau y Wern. Dychwelent un tro, ar noson dywell iawn, gan gymeryd y llwybr llithrig o'r Nant i fyny at y Coedpoeth y tro hwnw, pryd y cwympodd y ddau, gan ymlithro yn mhell yn ol, ond ni dderbyniasent unrhyw niwed. Wedi iddynt gyfodi, ac ail gychwyn, dywedodd Mr. Williams, "Wel Joseph, y mae yn rhaid fod rhywbeth heblaw rhagrith, yn ein cymhell i ddyfod i foddion gras ar y fath noson mor dywell." Y mae yn sicr mai cariad at eu Harglwydd Crist Iesu oedd y "rhywbeth" hwnw a gymhellai y gwyr rhagorol i'w gwaith.

Cynyddai eglwysi ei ofal, ag eithrio Harwd, mewn rhifedi a dylanwad beunydd; ac arferai Mr. Williams ddywedyd, ddarfod i Harwd wneuthur mwy o les iddo ef nag a allodd efe wneuthur i