Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Harwd, oblegid y byddai meddwl am Harwd nychlyd yn tueddu i gadw ei feddwl yn ostyngedig, pan y byddai yn gweled y bobl yn ymdyru ar ei ol mewn lleoedd eraill wrth y canoedd. Diau fod gan natur ac anian ddylanwad dystaw ac effeithiol i ddeffroi athrylith, a pheri ei bod megys yn ymffurfio yn ei meddianwyr i'r un a'r unrhyw ddelw, a golygfeydd cylchynol natur ei hunan. Ymddengys fod arddull bregethwrol Mr. Williams yr adeg hon yn dwyn arni ei hun nodau o arucheledd dirodres, hafal i natur yn amgylchoedd Cwmeisian Ganol, yn mynydddir Meirionydd. Tybiai rhai mai buddiol fuasai iddo ffrwyno ei athrylith, fel nad ymddangosai mor ddilywodraeth a hyf ger bron hen saint gofalus yr oes hono. Ond ni wna perchenogion athrylith gref ufuddhau yn ebrwydd, drwy ymwisgo yn ol dull dychymyg dynol i foddio dynion. Felly yntau, yr oedd ganddo arddull arbenig o'i eiddo ei hun, ac nid oedd gywilydd ganddo ymwisgo ynddi; ac yr oedd yn nodedig o effeithiol fel pregethwr yn y cyfnod hwn ar ei fywyd. Er cael gweled prawf o ddilysrwydd ein gosodiad, darllener a ganlyn allan o "Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd," tud. 188—189: "Wedi i'r erledigaeth fyned heibio, ac i grefyddwyr amlhau, yr oedd llawer o bregethwyr dyeithr yn teithio drwy Dowyn, Meirionydd. Adroddir hanesyn dyddorol gan y Parch. D. Cadvan Jones, am ymweliad cyntaf Mr. Williams o'r Wern, â'r dref,