Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aeth dau o'r brodyr a berthynent i'r Annibynwyr i'w gyfarfod, a chyfarfyddasent â gwr ieuanc o edrychiad ysmala, dirodres, a difater, ar gefn merlyn bychan. Yr oedd y naill a'r llall o'r ddau aethent i'w gyfarfod yn lled ofni nad efe oedd y gwr dyeithr, gan nad oedd ymddangosiad pregethwrol ganddo. Boed a fo, gofynwyd iddo, 'Ai chwi yw y gwr dyeithr sydd i bregethu gyda'r Dissenters heno?' 'Ie,' ebe fe, 'beth am hyny?'

'O, dim Syr, ond ein bod wedi dyfod i'ch cyfarfod.' Aeth ef a'r ddau arweinydd yn mlaen, ac erbyn cyrhaedd y dref, dygwyddodd amgylchiad eto o flaen ty penodol, a barodd iddynt amheu ai efe oedd y pregethwr. Modd bynag, ni ddywedasent ddim i amlygu eu drwgdybiaeth. Y noson hono, yr oedd Mr. Griffith Solomon i bregethu gyda'r Methodistiaid, a chafwyd drwy fawr gymhell a chrefu, ganiatad i roddi y gwr dyeithr i bregethu gydag ef, gan y tybiai yr ychydig frodyr na chaent neb i'w wrandaw pe y cedwid y ddwy oedfa ar wahan. Aeth y ddau arweinydd tua'r capel, ac yr oedd Griffith Solomon ychydig yn ddiweddar, a Mr. Williams wedi dechreu. Pan y daeth Griffith Solomon i mewn, edrychodd i fyny, rhuthrodd i'r pulpud, ac ymaflodd yn y gwr dyeithr yn ddiseremoni, a chymerodd ei le ef. Wel, wel,' ebai y ddau arweinydd ynddynt eu hunain, 'does dim amheuaeth bellach nad twyllwr ydyw y gwr ieuanc, ac y mae y Methodist yn ei 'nabod.' Yr oedd y