Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Methodist yn ei 'nabod, a dyna'r pa'm y mynai y blaen. Cafwyd oedfa y cofiwyd am dani byth gan y sawl a'i clywsent hi, ac er mawr lawenydd i'r ddau frawd, yr oedd yr hen Edward Williams, oedd mor wrthwynebol i adael i'w pregethwr gyd-bregethu â phregethwr y Methodistiaid, y cyntaf ar ei draed, ac yn uwch ei gloch na neb.'

Nodweddid y blynyddoedd hyn, fel rhai ag yr oedd dadleuon duwinyddol brwdfrydig yn cael eu dwyn yn mlaen yn Nghymru rhwng y gwahanol bleidiau crefyddol a'u gilydd. Bu ymsefydliad y Wesleyaid yn y Dywysogaeth yn 1800, yn ddychryn i'r rhai a dybient mai hwy oedd yn cadw gwirionedd yn ddilwgr, ac mai gyda hwy yr oedd trigle y wir athrawiaeth; ac nad oeddynt, wrth geisio ymlid Wesleyaeth o'r terfynau, ond yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. Bu ein gwrthddrych Parchedig yn rhodio y ffordd hon ar ddechreuad ei weinidogaeth. Y fath ydoedd nodwedd y weinidogaeth ar y pryd, fel y dywedodd Mr. Williams ei hun wrth Dr. Owen Thomas, "Nid oedd pregeth yn werth dim gynt, os na byddai ynddi ryw hergwd i Arminiaeth; ac mi fydda'i yn cywilyddio wrth gofio fel y bu'm fy hunan yn fynych yn ei phaentio." [1] Dywed Dr. W. Rees, yn ei gofiant iddo, tud. 15: "Yr oedd o ran ei farn a'i athrawiaeth yn Galfiniad lled uchel

  1. Gwel Gofiant y Parch. John Jones, Talsarn, tudalen 291,