Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn nyddiau boreuaf ei weinidogaeth; dyna oedd tôn y weinidogaeth yn mhlith yr Annibynwyr yn y dyddiau hyny. Buasai dyfodiad y Wesleyaid i Gymru ychydig flynyddau cyn hyn, yn achlysur yn ddiau i'r Trefnyddion Calfinaidd, yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, i sefyll yn dynach dros yr athrawiaeth Galfinaidd nag y gwnaethent cyn hyny; neu yn hytrach, i beri iddynt gilio oddiwrth Galfiniaeth gymhedrol i dir uchel-Galfiniaeth, er mwyn ymgadw ac ymddangos yn ddigon pell, fel y tybient, oddiwrth yr heresi Arminaidd, fel yr edrychent arni, pan mewn gwirionedd, yr oeddynt yn myned yn llawer nes ati o ran egwyddorion, tra yn cilio yn mhellach oddiwrthi mewn ymddangosiad arwynebol, a swn geiriau yn unig. Cyn y dyddiau hyny, yr oedd y Corff Trefnyddol mor wresogfrydig dros yr athrawiaeth o gyffredinolrwydd yr Iawn, a galwedigaeth yr Efengyl, ag y daethant wedi hyny yn erbyn y golygiadau hyny. Y Parch. J. Roberts o Lanbrynmair, oedd un o'r rhai cyntaf yn Ngogledd Cymru a gyfododd i fyny dros yr athrawiaethau a fuasent yn foddion i ddeffroi, a chynyrchu y diwygiadau nerthol yn nyddiau Lewis Rees, Howell Harris, a Daniel Rowlands, William Williams, Pantycelyn, ac eraill, a gwrthddrych y cofiant hwn oedd un o'r rhai cyntaf a ddaeth allan i'w gynorthwyo. Y mae yn debygol fod hyn o wahaniaeth rhwng y ddau dô yma o weinidogion â'u gilydd, nid oedd gan dadau y tô